Ezra 3

Ailadeiladu'r allor, a dechrau aberthu

1Roedd pobl Israel i gyd wedi setlo i lawr yn eu trefi. Yna yn y seithfed mis
3:1 seithfed mis Tishri (neu Ethanim), sef seithfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Medi i ganol Hydref. Hwn oedd y mis pwysica yn grefyddol: gyda Gŵyl yr Utgyrn ar y diwrnod cyntaf (Lefiticus 23:23-25; Numeri 29:1-6), Dydd y Cymod ar y degfed (Lefiticus 16:29-31), a Gŵyl y Pebyll am wythnos o'r pymthegfed ymlaen (Lefiticus 23:39-43)
dyma pawb yn dod at ei gilydd i Jerwsalem.
2A dyma Ieshŵa fab Iotsadac a'r offeiriaid oedd gydag e, a Serwbabel fab Shealtiel a'i ffrindiau, yn ailadeiladu allor Duw Israel. Wedyn gallen nhw ddod ag offrymau i'w llosgi a dilyn y cyfarwyddiadau roedd Duw wedi eu rhoi i Moses, ei broffwyd. 3Er fod ganddyn nhw ofn y bobl leol
3:3 y bobl leol Pobl o wledydd eraill oedd wedi symud i'r wlad yn ystod cyfnod y gaethglud (gw. Esra 4:2)
, dyma nhw'n gosod yr allor ar ei safle wreiddiol, a dechrau llosgi offrymau i'r Arglwydd arni bob bore a nos.
4Dyma nhw'n dathlu Gŵyl y Pebyll, a cyflwyno'r nifer cywir o offrymau i'w llosgi bob dydd, fel roedd y cyfarwyddiadau'n dweud. c 5Wedyn dyma nhw'n dod â'r offrymau arferol oedd i'w llosgi – yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd d, a'r offrymau ar gyfer y gwyliau eraill pan oedd pobl yn dod at ei gilydd i addoli; a hefyd yr offrymau roedd pobl yn eu rhoi yn wirfoddol. 6Dechreuon nhw losgi offrymau i'r Arglwydd ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis. Ond doedd y gwaith o ailadeiladu teml yr Arglwydd ddim wedi dechrau eto.

Dechrau ailadeiladu'r Deml

7Felly dyma'r bobl yn rhoi arian i gyflogi seiri maen a seiri coed i weithio ar y Deml. A dyma nhw'n prynu coed cedrwydd gan bobl Sidon a Tyrus a talu am y rheiny gyda cyflenwad o fwyd, diodydd ac olew olewydd. Roedden nhw'n dod â'r coed i lawr o fryniau Libanus i'r arfordir, ac yna ar rafftiau i borthladd Jopa
3:7 Jopa Roedd porthladd Jopa ryw 36 milltir o Jerwsalem (gw. 2 Cronicl 2:16)
. Roedd y brenin Cyrus o Persia wedi rhoi caniatâd i hyn ddigwydd.

8Dyma'r gwaith o adeiladu teml Dduw yn dechrau flwyddyn a mis ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl o Babilon i Jerwsalem. Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac ddechreuodd y gwaith, gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, a phawb arall oedd wedi dod yn ôl i Jerwsalem o'r gaethglud. A dyma nhw'n penodi Lefiaid oedd dros ugain oed i arolygu'r gwaith oedd yn cael ei wneud ar deml yr Arglwydd. 9Dyma Ieshŵa yn penodi ei feibion a'i berthnasau ei hun, Cadmiel a Binnŵi (sef meibion Hodafia), i fod yn gyfrifol am y gweithwyr. Hefyd meibion Chenadad, a'u meibion nhw, a'u perthnasau o lwyth Lefi.

10Pan gafodd sylfaeni teml yr Arglwydd eu gosod, dyma'r offeiriaid yn eu gwisgoedd seremonïol yn canu utgyrn, a'r Lefiaid (sef meibion Asaff) yn taro symbalau, i foli'r Arglwydd. Roedden nhw'n dilyn y drefn roedd Dafydd, brenin Israel, wedi ei gosod. 11Roedden nhw'n canu mewn antiffoni, wrth foli ac addoli'r Arglwydd:

“Mae e mor dda aton ni;
Mae ei haelioni i Israel yn ddiddiwedd!”

A dyma'r dyrfa i gyd yn gweiddi'n uchel a moli'r Arglwydd am fod sylfaeni'r deml wedi eu gosod.
12Ond yng nghanol yr holl weiddi a'r dathlu, roedd llawer o'r offeiriaid, Lefiaid a'r arweinwyr hŷn yn beichio crïo. Roedden nhw'n cofio'r deml fel roedd hi, pan oedd hi'n dal i sefyll. 13Ond doedd neb wir yn gallu gwahaniaethu rhwng sŵn y dathlu a sŵn y crïo. Roedd pobl yn gweiddi mor uchel roedd i'w glywed o bell.

Copyright information for CYM